Haplogrwp R1b (Cromosom-Y)

Haplogrwp R1b yn Ewrop

Mewn genynnau dynol, yr haplogrwp Cromosom-Y sy'n digwydd mwyaf aml yng Ngorllewin Ewrop a rhai rhannau o Ewroasia (megis Bashkortostan) yw Haplogrwp R1b. Mae i'w ganfod hefyd yng nghanolbarth Affrica, mewn llefydd fel Tsiad a Camerŵn. Mae R1b yn cael ei adnabod hefyd, ers 2004, gan bresenoldeb M343 sef y mwtaniad unigryw hwn ar Gromosom-Y. Yr enwau eraill sydd wedi cael eu defnyddio cyn yr ail-enwi yma yw Hg1 a Eu18.

Mae'n debygol i'r mwtaniad yma ddigwydd tua 18,500 o flynyddoedd yn ôl a gellir cyfeirio'n answyddogol ato fel Cromoson Celtaidd.[1]

Mae 92.3% dynion yng Nghymru yn R1b.[2]

  1. Gwefan Ymchwil Genom (Saesneg)
  2. Balaresque et al. (2009) A Predominantly Neolithic Origin for European Paternal Lineages pp. 119–22. PLoS Biol. vol 8, issue 1

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy